Canfu adroddiad newydd yn seiliedig ar arolwg o dros 300 elusen ledled Cymru fod elusennau yn wynebu storm berffaith – ac mae’n un na fedrwn ni fforddi ei hanwybyddu.
Wrth i’r byd wella ar ôl pandemig dinistriol, mae cyfres o siociau, gan gynnwys cynnydd ym mhris nwyddau a gwasanaethau, effaith chwyddiant uchel ar roddion, amgylchedd codi arian heriol a galw cynyddol am wasanaethau, wedi taro elusennau yn galed.
Mae arolwg, a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Cranfield, prif ddarparwr cymorth rheoli pro bono i elusennau yn y DU, wedi datgelu bod bron i hanner yr elusennau wedi datgan bod diffyg cyllid craidd hirdymor yn rhwystr i ddatblygiad a dywedodd 73% y byddent yn elwa o gefnogaeth rheolaeth ar unwaith. Er bod cymorth rheoli pro bono ar gael i elusennau yng Nghymru, nid oedd llawer o’r rhai a ymatebodd yn ymwybodol ohono.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru yn gostwng yn raddol dros y deng mlynedd diwethaf, amcangyfrifir bod elusennau yng Nghymru wedi colli 24% o gyfanswm eu hincwm yn ystod 2021 – sy’n cyfateb i golled syfrdanol o £620m.
Dywedodd Amanda Tincknell, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Cranfield, “Bydd pobl ar hyd a lled y DU yn cael eu taro’n galed eleni gan y costau byw cynyddol a bydd llawer ohonynt yn troi at elusennau i gael y cymorth neu’r cyngor sydd ei angen arnynt. Ond mae arweinwyr elusennau yng Nghymru yn poeni am sut y byddan nhw’n ymdopi â rheoli’r galw cynyddol am wasanaethau, ar adeg pan mae cynhyrchu incwm i ddarparu eu gwasanaethau yn fwy anodd nag erioed a’u gallu wedi’i ymestyn i’r eithaf.”
Yn ôl yr arolwg, dywedodd 85% o arweinwyr elusennau mai cael amser i fod yn strategol a gweithredol oedd eu her arweinyddiaeth fawr, nawr ac yn y 12 mis nesaf.
Aeth Amanda ymlaen i ddweud, “Trwy’r arolwg, dywedodd arweinwyr elusennau yng Nghymru wrthym eu bod dan bwysau aruthrol, a’u bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i amser i feddwl yn strategol wrth weithredu’n weithredol, a bod angen cymorth ariannol arnynt nawr. Rydym yn annog arweinwyr elusennau i estyn allan am y cymorth rheoli pro bo sydd ar gael iddynt, er mwyn iddynt allu parhau i gefnogi’r bobl a’r cymunedau sy’n dibynnu ar eu gwasanaethau hanfodol.”